Ioan 20:4-14 beibl.net 2015 (BNET)

4. Rhedodd y ddau gyda'i gilydd, ond dyma'r disgybl arall yn rhedeg yn gynt na Pedr a chyrraedd yno o'i flaen.

5. Plygodd i edrych i mewn i'r bedd, a gweld y stribedi o liain yn gorwedd yno, ond aeth e ddim i mewn.

6. Yna dyma Simon Pedr yn cyrraedd ar ei ôl ac yn mynd yn syth i mewn i'r bedd. Gwelodd yntau'r stribedi o liain yn gorwedd yno.

7. Gwelodd hefyd y cadach oedd wedi bod am wyneb Iesu, ond roedd hwnnw wedi ei blygu a'i osod o'r neilltu ar wahân i'r stribedi lliain.

8. Yna, yn y diwedd, dyma'r disgybl arall (oedd wedi cyrraedd y bedd gyntaf) yn mynd i mewn hefyd. Pan welodd e'r cwbl, credodd.

9. (Doedden nhw ddim eto wedi deall fod yr ysgrifau sanctaidd yn dweud fod rhaid i Iesu ddod yn ôl yn fyw.)

10. Aeth y disgyblion yn ôl adre,

11. ond safodd Mair wrth ymyl y bedd yn crïo. Plygodd i lawr i edrych i mewn i'r bedd

12. a gweld dau angel mewn dillad gwyn yn eistedd lle roedd corff Iesu wedi cael ei roi i orwedd – un wrth y pen a'r llall wrth y traed.

13. Dyma nhw'n gofyn i Mair, “Wraig annwyl, pam rwyt ti'n crïo?”“Maen nhw wedi cymryd fy Arglwydd i ffwrdd,” atebodd, “a dw i ddim yn gwybod ble maen nhw wedi mynd ag e”

14. Dyna pryd y trodd hi rownd a gweld rhywun yn sefyll o'i blaen. Iesu oedd yno, ond doedd hi ddim yn sylweddoli mai Iesu oedd e.

Ioan 20