Ioan 19:37-42 beibl.net 2015 (BNET)

37. ac fel mae'n dweud yn rhywle arall, “Byddan nhw'n edrych ar yr un maen nhw wedi ei drywanu.”

38. Wedi hynny dyma Joseff o Arimathea yn mynd at Peilat i ofyn am ganiatâd i gymryd corff Iesu. (Roedd Joseff yn un o ddilynwyr Iesu, ond yn cadw'n ddistaw am y peth am fod ganddo ofn yr arweinwyr Iddewig.) Cafodd ganiatâd Peilat, a daeth a chymryd y corff.

39. Roedd Nicodemus gydag e hefyd, sef y dyn oedd wedi mynd i weld Iesu ganol nos. Daeth Nicodemus a tua 34 cilogram o fyrr ac aloes,

40. i'w ddefnyddio wrth rwymo corff Iesu â stribedi o liain. Dyma sut roedd yr Iddewon yn arfer claddu pobl.

41. Roedd gardd wrth ymyl y man lle cafodd Iesu ei groeshoelio, ac roedd bedd newydd yn yr ardd – doedd neb erioed wedi ei gladdu ynddo o'r blaen.

42. Am ei bod hi'n bnawn Gwener (y diwrnod cyn y dydd Saboth Iddewig), ac am fod y bedd mor agos, dyma nhw'n rhoi Iesu i orwedd yno.

Ioan 19