Ioan 18:7-16 beibl.net 2015 (BNET)

7. Gofynnodd iddyn nhw eto, “Pwy dych chi eisiau?”A dyma nhw'n dweud “Iesu o Nasareth.”

8. “Dw i wedi dweud wrthoch chi mai fi ydy e,” meddai Iesu. “Felly os mai fi ydy'r un dych chi'n edrych amdano, gadewch i'r dynion hyn fynd yn rhydd.”

9. (Er mwyn i beth ddwedodd e yn gynharach ddod yn wir: “Dw i ddim wedi colli neb o'r rhai roist ti i mi.”)

10. Yna dyma Simon Pedr yn tynnu cleddyf allan ac yn taro gwas yr archoffeiriad, a thorri ei glust dde i ffwrdd. (Malchus oedd enw'r gwas.)

11. “Cadw dy gleddyf!” meddai Iesu wrtho, “Wyt ti'n meddwl fy mod i ddim yn barod i ddioddef, ac yfed o'r cwpan chwerw mae'r Tad wedi ei roi i mi?”

12. Dyma'r fintai o filwyr a'i chapten a swyddogion yr arweinwyr Iddewig yn arestio Iesu a'i rwymo.

13. Aethon nhw ag e at Annas gyntaf, sef tad-yng-nghyfraith Caiaffas oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno.

14. (Caiaffas oedd yr un oedd wedi awgrymu i'r arweinwyr Iddewig y byddai'n well i un person farw dros y bobl.)

15. Dyma Simon Pedr ac un arall o'r disgyblion yn mynd ar ôl Iesu. Roedd yr archoffeiriad yn nabod y disgybl arall hwnnw yn dda, felly cafodd fynd i mewn gyda Iesu i iard tŷ'r archoffeiriad.

16. Ond roedd rhaid i Pedr aros wrth y drws y tu allan. Yna dyma'r disgybl oedd yr archoffeiriad yn ei nabod, yn mynd yn ôl ac yn perswadio'r ferch oedd yn cadw'r drws i adael Pedr i mewn.

Ioan 18