Ioan 11:36-38 beibl.net 2015 (BNET)

36. “Edrychwch gymaint oedd yn ei garu e!” meddai'r bobl oedd yno.

37. Ond roedd rhai ohonyn nhw'n dweud, “Oni allai hwn, roddodd ei olwg i'r dyn dall yna, gadw Lasarus yn fyw?”

38. Roedd Iesu'n dal wedi cynhyrfu pan ddaeth at y bedd. (Ogof oedd y bedd, a charreg wedi ei gosod dros geg yr ogof.)

Ioan 11