Ioan 10:39-42 beibl.net 2015 (BNET)

39. Dyma nhw'n ceisio ei ddal unwaith eto, ond llwyddodd i ddianc o'u gafael nhw.

40. Yna aeth Iesu yn ôl ar draws Afon Iorddonen i'r lle roedd Ioan Fedyddiwr wedi bod yn bedyddio yn y dyddiau cynnar. Arhosodd Iesu yno

41. a daeth llawer o bobl allan ato. Roedden nhw yn dweud, “Wnaeth Ioan ddim gwneud unrhyw wyrth, ond roedd popeth ddwedodd e am y dyn hwn yn wir.”

42. A daeth llawer i gredu yn Iesu yn y lle hwnnw.

Ioan 10