Hosea 9:14-17 beibl.net 2015 (BNET)

14. Rho iddyn nhw, ARGLWYDD – Ond beth roi di iddyn nhw? – Rho grothau sy'n erthylu, a bronnau wedi sychu!

15. “Am wneud yr holl ddrwg yn Gilgal,dw i'n eu casáu nhw.Dw i'n mynd i'w gyrru nhw allan o'm tiro achos eu holl ddrygioni.Dw i ddim yn eu caru nhw bellach;mae eu swyddogion i gyd mor ystyfnig.

16. Bydd pobl Effraim yn cael eu taro'n galed –mae'r gwreiddyn wedi sychu;a does dim ffrwyth yn tyfu.A hyd yn oed petaen nhw'n cael plant,byddwn i'n lladd eu babis bach del!”

17. Bydd fy Nuw yn eu gwrthod nhwam beidio gwrando arno;ac yn gwneud iddyn nhw grwydroar goll ymhlith y cenhedloedd!

Hosea 9