Hosea 2:3-6 beibl.net 2015 (BNET)

3. Neu bydda i'n rhwygo ei dillad oddi arni –bydd hi'n hollol noeth, fel ar ddiwrnod ei geni.Bydda i'n troi'r wlad yn anialwch.Bydd fel tir sych;a bydd hi'n marw o syched.

4. Fydda i'n dangos dim trugaredd at ei phlant,am mai plant siawns ydyn nhw, am iddi buteinio.

5. Hwren anffyddlon ydy eu mam nhw;mae hi wedi ymddwyn yn warthus.Roedd hi'n dweud:‘Dw i'n mynd at fy nghariadon.Maen nhw'n rhoi bwyd a dŵr i mi,gwlân, llin, olew, a diodydd.’

6. Felly, dw i am gau ei ffordd gyda draina chodi wal i'w rhwystro,fel ei bod hi'n colli ei ffordd.

Hosea 2