4. “Ond fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw,ers i chi ddod allan o wlad yr Aifft.Peidiwch arddel unrhyw dduw ond fi –Fi ydy'r unig un sy'n achub!
5. Fi wnaeth fwydo'ch pobl yn yr anialwch,mewn tir sych, diffaith.
6. Ond wedi eu bwydo, roedden nhw'n fodlon –mor fodlon nes iddyn nhw droi'n falch,ac yna fy anghofio i!
7. Felly bydda i'n rhuthro arnyn nhw fel llew,ac yn llechian fel llewpard ar ochr y ffordd.
8. Bydda i'n ymosod arnyn nhwfel arth wedi colli ei chenawon;a'i llarpio nhw fel llew,neu anifail gwyllt yn rhwygo'i ysglyfaeth.
9. Dw i'n mynd i dy ddinistrio di, O Israel!Pwy sydd yna i dy helpu di?
10. Ble mae dy frenin,iddo fe dy achub di?Ble mae'r arweinwyr yn dy drefi?Ti ofynnodd, ‘Rho frenin a swyddogion i mi’.
11. Wel, rhois frenin i ti am fy mod yn ddig,a dw i wedi ei gipio i ffwrdd am fy mod yn fwy dig fyth!
12. Mae'r dyfarniad ar Effraim wedi ei gofnodi,a'i gosb wedi ei gadw'n saff iddo.
13. Bydd yn dod yn sydyn, fel poenau ar wraig sy'n cael babi;mae'r amser wedi dod, ac mae'r plentyn dwlyn gwrthod dod allan o'r groth, a byw.
14. Ydw i'n mynd i'w hachub nhw o fyd y meirw?Ydw i'n mynd i'w rhyddhau o afael marwolaeth?O farwolaeth! Ble mae dy blâu di?O fedd! Ble mae dy ddinistr di?Fydda i'n dangos dim trugaredd!”