Hosea 12:10-13 beibl.net 2015 (BNET)

10. Dw i wedi siarad drwy'r proffwydi –mewn gweledigaethau a negeseuon.”

11. Ydy Gilead yn addoli eilunod?Ydy, a does dim dyfodol i'w phobl!Ydyn nhw'n aberthu teirw yn Gilgal?Ydynt, ond bydd eu hallorau fel pentwr o gerrigmewn cae wedi ei aredig!

12. Roedd rhaid i Jacob ddianc i wlad Aram –gweithiodd Israel fel gwas i gael gwraig,a cadw defaid i dalu amdani.

13. Yna defnyddiodd yr ARGLWYDD broffwydi arwain Israel allan o'r Aifft,ac i'w cadw nhw'n fyw yn yr anialwch.

Hosea 12