3. Fi ddysgodd Effraim i gerdded;a'i arwain gerfydd ei law.Ond wnaeth ei bobl ddim cydnabodmai fi ofalodd amdanynt.
4. Fi wnaeth eu harwain gyda thennyn lledr –tennyn cariad.Fi gododd yr iau oddi ar eu gwddf,a fi wnaeth blygu i'w bwydo.
5. Byddan nhw'n mynd yn ôl i'r Aifft!Bydd Asyria'n eu rheoli,am iddyn nhw wrthod troi'n ôl ata i.
6. Bydd cleddyf yn fflachio'n eu trefi.Bydd y gelyn yn malu'r giatiau,a'u lladd er gwaetha'u cynlluniau.
7. Mae fy mhobl yn mynnu troi cefn arna i.Maen nhw'n galw ar Baal,ond fydd e byth yn eu helpu nhw!
8. Sut alla i dy roi heibio, Effraim?Ydw i'n mynd i adael i ti fynd, Israel?Sut alla i dy roi heibio fel Adma?Ydw i'n mynd i dy drin fel Seboïm?Na, dw i wedi newid fy meddwl!Mae tosturi wedi cynnau'n fy nghalon.