9. Peidiwch gadael i bob math o syniadau rhyfedd eich camarwain chi. Haelioni rhyfeddol Duw sy'n ein cynnal ni, dim y rheolau am beth sy'n iawn i'w fwyta. Dydy canolbwyntio ar bethau felly'n gwneud lles i neb!
10. Mae gynnon ni aberth does gan yr offeiriaid sy'n gweini dan yr hen drefn ddim hawl i fwyta ohoni.
11. Dan yr hen drefn mae'r archoffeiriad yn mynd รข gwaed anifeiliaid i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd fel offrwm dros bechod, ond mae cyrff yr anifeiliaid yn cael eu llosgi y tu allan i'r gwersyll.
12. A'r un fath, roedd rhaid i Iesu ddioddef y tu allan i waliau'r ddinas er mwyn glanhau'r bobl drwy dywallt ei waed ei hun.