Hebreaid 11:37-40 beibl.net 2015 (BNET)

37. Cafodd rhai eu llabyddio gyda cherrig, ac eraill eu llifio yn eu hanner; a chafodd eraill eu lladd â chleddyf. Buodd rhai yn crwydro fel ffoaduriaid heb ddim ond crwyn defaid a geifr yn ddillad; wedi colli'r cwbl, ac yn cael eu herlid a'u cam-drin.

38. Pobl oedd y byd ddim yn eu haeddu nhw. Roedden nhw'n crwydro dros dir anial a mynydd-dir, ac yn cuddio mewn ogofâu a thyllau yn y ddaear.

39. Cafodd y bobl yma i gyd eu canmol am eu ffydd, ac eto wnaeth dim un ohonyn nhw dderbyn y cwbl roedd Duw wedi ei addo.

40. Roedd Duw wedi cynllunio rhywbeth gwell iddyn nhw – rhywbeth dŷn ni'n rhan ohono. Felly dŷn nhw ddim ond yn gallu cael y wobr lawn gyda ni.

Hebreaid 11