Genesis 5:27-31 beibl.net 2015 (BNET)

27. Felly roedd Methwsela yn 969 oed yn marw.

28. Pan oedd Lamech yn 182 oed cafodd fab,

29. a'i alw yn Noa. Dwedodd, “Bydd hwn yn rhoi gorffwys i ni o'r gwaith caled o drin y tir mae'r ARGLWYDD wedi ei felltithio.”

30. Buodd Lamech fyw am 595 mlynedd ar ôl i Noa gael ei eni, a chafodd blant eraill

31. Felly roedd Lamech yn 777 oed yn marw.

Genesis 5