Genesis 49:31-33 beibl.net 2015 (BNET)

31. Dyna lle mae Abraham a'i wraig Sara wedi eu claddu. Dyna lle mae Isaac a'i wraig Rebeca wedi eu claddu. A dyna lle gwnes i gladdu Lea.

32. Cafodd y darn tir a'r ogof sydd ynddo ei brynu gan yr Hethiaid.”

33. Pan oedd Jacob wedi gorffen dweud wrth ei feibion beth i'w wneud, cododd ei draed yn ôl ar y gwely, cymryd ei anadl olaf a marw.

Genesis 49