12. “Na,” meddai Joseff. “Dych chi wedi dod i weld lle fyddai'n hawdd i chi ymosod ar y wlad!”
13. A dyma nhw'n ei ateb, “Mae dy weision yn ddeuddeg brawd. Dŷn ni i gyd yn feibion i'r un dyn sy'n byw yng ngwlad Canaan. Mae'r ifancaf adre gyda'n tad, ac mae un wedi marw.”
14. “Na,” meddai Joseff eto. “Ysbiwyr ydych chi, yn union fel dw i wedi dweud.
15. Ond dw i'n mynd i'ch profi chi. Mor sicr â bod y Pharo'n fyw, chewch chi ddim gadael nes bydd eich brawd bach wedi dod yma!
16. Caiff un ohonoch chi fynd i nôl eich brawd tra mae'r lleill yn aros yn y carchar. Cewch gyfle i brofi eich bod yn dweud y gwir. Os nad ydych chi'n dweud y gwir mae'n amlwg mai ysbiwyr ydych chi.”
17. A dyma fe'n eu cadw nhw yn y ddalfa am dri diwrnod.
18. Ar y trydydd diwrnod dyma Joseff yn dweud wrthyn nhw, “Gwnewch beth dw i'n ei ofyn a chewch fyw. Dw i'n ddyn sy'n addoli Duw.
19. Os ydych chi wir yn ddynion gonest, bydd rhaid i un ohonoch chi aros yma yn y carchar, a chaiff y lleill ohonoch chi fynd ag ŷd yn ôl i'ch teuluoedd.
20. Ond rhaid i chi ddod â'ch brawd ifancaf yma ata i. Wedyn bydda i'n gwybod eich bod chi'n dweud y gwir, a fydd dim rhaid i chi farw.” A dyma nhw'n cytuno.
21. Ond medden nhw wrth ei gilydd, “Dŷn ni'n talu'r pris am beth wnaethon ni i'n brawd. Roedden ni'n gweld yn iawn gymaint roedd e wedi dychryn, pan oedd yn pledio am drugaredd. Ond wnaethon ni ddim gwrando. Dyna pam mae hyn i gyd wedi digwydd i ni.”
22. “Ddwedais i wrthoch chi am beidio gwneud niwed i'r bachgen, ond wnaethoch chi ddim gwrando,” meddai Reuben. “A nawr mae'n rhaid i ni dalu am dywallt ei waed!”
23. (Doedden nhw ddim yn sylweddoli fod Joseff yn deall popeth roedden nhw'n ei ddweud. Roedd wedi bod yn siarad â nhw drwy gyfieithydd.)
24. Dyma Joseff yn eu gadael nhw ac yn torri i lawr i grïo. Pan ddaeth yn ôl i siarad â nhw eto, dyma fe'n dewis Simeon i'w gadw yn y ddalfa, a gorchymyn ei rwymo yn y fan a'r lle.
25. Wedyn dyma Joseff yn gorchymyn llenwi eu sachau ag ŷd, rhoi arian pob un ohonyn nhw yn ôl yn ei sach, a rhoi bwyd iddyn nhw ar gyfer y daith. A dyna wnaed.
26. Dyma'r brodyr yn llwytho eu hasynnod a mynd.
27. Pan wnaethon nhw stopio i aros dros nos, agorodd un ohonyn nhw ei sach i fwydo'i asyn. A dyna lle roedd ei arian yng ngheg y sach.
28. Aeth i ddweud wrth ei frodyr, “Mae fy arian wedi cael ei roi yn ôl. Roedd yn y sach!” Roedden nhw wedi dychryn go iawn. “Be mae Duw wedi ei wneud?” medden nhw.
29. Pan gyrhaeddon nhw adre i wlad Canaan at eu tad Jacob, dyma nhw'n dweud wrtho am bopeth oedd wedi digwydd.
30. “Roedd llywodraethwr y wlad yn gas gyda ni ac yn ein cyhuddo ni o fod yn ysbiwyr.