Genesis 39:1-3 beibl.net 2015 (BNET)

1. Cafodd Joseff ei gymryd i lawr i'r Aifft gan yr Ismaeliaid. A dyma un o swyddogion y Pharo, sef Potiffar, capten y gwarchodlu, yn ei brynu e ganddyn nhw.

2. Roedd yr ARGLWYDD yn gofalu am Joseff. Roedd pethau'n mynd yn dda iddo wrth iddo weithio yn nhÅ· ei feistr yn yr Aifft.

3. Sylwodd ei feistr fod yr ARGLWYDD yn gofalu am Joseff a bod popeth roedd e'n ei wneud yn llwyddo.

Genesis 39