Genesis 36:5-24 beibl.net 2015 (BNET)

5. a cafodd Oholibama dri o fechgyn, sef Iewsh, Ialam a Cora.Dyma enwau'r meibion gafodd Esau pan oedd yng ngwlad Canaan.

6. Symudodd Esau i ffwrdd i wlad oedd yn reit bell oddi wrth ei frawd Jacob. Aeth â'i wragedd gydag e, a'i feibion a'i ferched, a phawb arall oedd gydag e, a'i anifeiliaid a'r holl eiddo oedd wedi ei gasglu pan oedd yn byw yng ngwlad Canaan.

7. Roedd gan y ddau ormod o anifeiliaid i allu byw gyda'i gilydd – doedd y tir ddim yn gallu cynnal y cwbl.

8. Felly dyma Esau (sef Edom) yn setlo ym mryniau Seir.

9. Dyma hanes teulu Esau (Ohono fe y daeth pobl Edom, sy'n byw ym mryniau Seir):

10. Enwau meibion Esau:Eliffas (mab Ada, gwraig Esau), Reuel (mab Basemath, gwraig Esau)

11. Enwau meibion Eliffas:Teman, Omar, Seffo, Gatam a Cenas.

12. Y rhain oedd disgynyddion Ada gwraig Esau. (Roedd gan Eliffas, mab Esau, bartner o'r enw Timna hefyd. Cafodd hi fab i Eliffas, sef Amalec.)

13. Enwau meibion Reuel:Nachath, Serach, Shamma a Missa. Y rhain oedd disgynyddion Basemath gwraig Esau.

14. A dyma enwau meibion Oholibama (merch Ana ac wyres Sibeon): cafodd dri o feibion i Esau, sef Iewsh, Ialam a Cora.

15. Roedd disgynyddion Esau yn arweinwyr llwythau gwahanol:Disgynyddion Eliffas (mab hynaf Esau) oedd arweinwyr llwythau Teman, Omar, Seffo, Cenas,

16. Cora, Gatam ac Amalec. Roedd arweinwyr y llwythau yma yn Edom i gyd yn ddisgynyddion i Eliffas ac Ada.

17. Disgynyddion Reuel (mab Esau) oedd arweinwyr llwythau Nachath, Serach, Shamma a Missa. Roedd arweinwyr y llwythau yma yn Edom i gyd yn ddisgynyddion i Eliffas a Basemath.

18. Wedyn dyma ddisgynyddion Oholibama (gwraig arall Esau): arweinwyr llwythau Iewsh, Ialam a Cora. Roedd arweinwyr y llwythau yma yn ddisgynyddion i Esau ac Oholibama (merch Ana).

19. Mae'r rhain i gyd yn ddisgynyddion i Esau – dyma arweinwyr llwythau Edom.

20. A dyma feibion Seir yr Horiad, oedd yn byw yn y wlad o'r blaen:Lotan, Shofal, Sibeon, Ana,

21. Dishon, Etser a Dishan. Y rhain oedd arweinwyr llwythau'r Horiaid, disgynyddion Seir sy'n byw yng ngwlad Edom.

22. Meibion Lotan oedd Chori a Homam (a Timna oedd chwaer Lotan).

23. Meibion Shofal oedd Alfan, Manachath, Ebal, Sheffo ac Onam.

24. Meibion Sibeon oedd Aia ac Ana (sef yr Ana ddarganfyddodd y ffynhonnau yn yr anialwch pan oedd yn gofalu am asynnod ei dad Sibeon).

Genesis 36