23. (Wnaeth e ddim ei nabod am fod y dwylo'n flewog fel dwylo Esau. Dyna pam wnaeth Isaac fendithio Jacob.)
24. “Fy mab Esau wyt ti go iawn?” gofynnodd Isaac. “Ie,” meddai Jacob.
25. “Tyrd â'r helfa yma i mi gael bwyta cyn dy fendithio di,” meddai Isaac. Felly daeth Jacob â'r bwyd iddo, a dyma Isaac yn ei fwyta. Daeth â gwin iddo ei yfed hefyd.
26. Wedyn dyma Isaac yn dweud, “Tyrd yma a rho gusan i mi fy mab.”
27. A dyma Jacob yn mynd ato a rhoi cusan iddo. Pan glywodd Isaac yr arogl ar ddillad ei fab, dyma fe'n ei fendithio, a dweud,“Ie, mae fy mab yn aroglifel y tir mae'r ARGLWYDD wedi ei fendithio.
28. Boed i Dduw roi gwlith o'r awyr i ti,a chnydau gwych o'r tir,– digonedd o ŷd a grawnwin.
29. Boed i bobloedd eraill dy wasanaethu di,a gwledydd eraill ymgrymu o dy flaen.Byddi'n feistr ar dy frodyr,a bydd meibion dy fam yn ymgrymu o dy flaen.Bydd Duw yn melltithio pawb sy'n dy felltithio di,ac yn bendithio pawb sy'n dy fendithio di!”