Genesis 23:18-20 beibl.net 2015 (BNET)

18. Roedd disgynyddion Heth a phawb arall oedd wrth giât y ddinas, yn dystion i'r cytundeb.

19. Ar ôl prynu'r tir dyma Abraham yn claddu Sara ei wraig yn yr ogof oedd yno, yn Machpela ger Mamre (sef Hebron) yng ngwlad Canaan.

20. Cafodd y tir a'r ogof oedd arno eu gwerthu i Abraham gan ddisgynyddion Heth, iddo gladdu ei deulu yno.

Genesis 23