Genesis 10:25-32 beibl.net 2015 (BNET)

25. Roedd gan Eber ddau fab – cafodd un ei alw'n Peleg, am mai dyna pryd y cafodd ieithoedd y byd eu rhannu. Yna enw ei frawd oedd Ioctan.

26. Disgynyddion Ioctan oedd pobl Almodad, Sheleff, Chatsar-mafeth, Ierach,

27. Hadoram, Wsal, Dicla,

28. Obal, Abima-el, Sheba,

29. Offir, Hafila, a Iobab. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ioctan.

30. Roedden nhw'n byw ar y tir rhwng Mesha a bryniau Seffar yn y dwyrain.

31. Felly dyna ddisgynyddion Shem, yn ôl eu llwythau, ieithoedd, tiroedd a chenhedloedd.

32. Dyna'r llwythau ddaeth o feibion Noa, wedi eu rhestru yn eu cenhedloedd yn ôl eu hachau. Ar ôl y dilyw dyma nhw'n rhannu i wneud gwahanol genhedloedd yn y byd.

Genesis 10