24. Arffacsad oedd tad Shelach, a Shelach oedd tad Eber.
25. Roedd gan Eber ddau fab – cafodd un ei alw'n Peleg, am mai dyna pryd y cafodd ieithoedd y byd eu rhannu. Yna enw ei frawd oedd Ioctan.
26. Disgynyddion Ioctan oedd pobl Almodad, Sheleff, Chatsar-mafeth, Ierach,
27. Hadoram, Wsal, Dicla,
28. Obal, Abima-el, Sheba,
29. Offir, Hafila, a Iobab. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ioctan.
30. Roedden nhw'n byw ar y tir rhwng Mesha a bryniau Seffar yn y dwyrain.