Galatiaid 2:14-17 beibl.net 2015 (BNET)

14. Ond roedd hi'n gwbl amlwg i mi eu bod nhw'n ymddwyn yn groes i wirionedd y newyddion da. Felly dyma fi'n dweud wrth Pedr o'u blaen nhw i gyd, “Rwyt ti'n Iddew, ac eto rwyt ti'n byw fel pobl o genhedloedd eraill, felly sut wyt ti'n cyfiawnhau gorfodi pobl o'r gwledydd hynny i ddilyn traddodiadau Iddewig?”

15. “Rwyt ti a fi wedi'n geni'n Iddewon, dim yn ‛bechaduriaid‛ fel mae pobl o genhedloedd eraill yn cael eu galw. Ac eto

16. dŷn ni'n gwybod mai dim cadw yn ddeddfol holl fanion y Gyfraith Iddewig sy'n gwneud ein perthynas ni gyda Duw yn iawn. Credu fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon sy'n gwneud hynny. Felly roedd rhaid i ni'r Iddewon hefyd gredu yn y Meseia Iesu – credu mai ei ffyddlondeb e sy'n ein gwneud ni'n iawn gyda Duw dim cadw manion y Gyfraith Iddewig! ‘All neb fod yn iawn gyda Duw drwy gadw'r Gyfraith!’

17. “Ond os ydy ceisio perthynas iawn gyda Duw trwy beth wnaeth y Meseia yn dangos ein bod ni'n ‛bechaduriaid‛ fel pawb arall, ydy hynny'n golygu bod y Meseia yn gwasanaethu pechod? Na! Wrth gwrs ddim!

Galatiaid 2