Galarnad 4:10-16 beibl.net 2015 (BNET)

10. Pan gafodd fy mhobl eu dinistrio,roedd mamau, oedd unwaith yn dyner,yn coginio eu plant i'w bwyta!

11. Dyma'r ARGLWYDD yn bwrw arnom ei lid i gyd.Tywalltodd ei ddig ffyrniga chynnau tânwnaeth losgi sylfeini Seion.

12. Doedd dim un brenin wedi dychmygu,na neb arall drwy'r byd i gyd,y gallai unrhyw elyn neu ymosodwrgoncro dinas Jerwsalem.

13. Ond dyna ddigwyddodd, am fod ei phroffwydi wedi pechua'i hoffeiriaid wedi gwrthryfela.Nhw oedd gyfrifol am ladd pobl ddiniwedyn y ddinas.

14. Maen nhw'n crwydro'r strydoedd fel pobl ddall.Does neb yn beiddio cyffwrdd eu dillad nhw,am fod y gwaed wnaethon nhw ei dywalltwedi eu gwneud nhw'n aflan.

15. Mae pobl yn gweiddi arnyn nhw, “Cadwch draw! Dych chi'n aflan!Ewch i ffwrdd! Peidiwch cyffwrdd ni!”Felly dyma nhw'n ffoi ac maen nhw'n crwydro o gwmpaso un wlad i'r llall heb gael croeso yn unman.

16. Yr ARGLWYDD ei hun wnaeth eu gyrru ar chwâl,a dydy e ddim yn gofalu amdanyn nhw ddim mwy.Does neb yn dangos parch at yr offeiriaid,a does neb yn malio am yr arweinwyr.

Galarnad 4