Galarnad 2:2-8 beibl.net 2015 (BNET)

2. Mae wedi dinistrio cartrefi pobl Jacobheb ddangos trugaredd o gwbl.Yn ei ddig mae wedi dinistrio'r trefi caerogoedd yn amddiffyn Jwda.Mae wedi bwrw i lawr y wlad a'i harweinwyrac achosi cywilydd mawr.

3. Yn ei lid ffyrnig mae wedi dinistriogrym byddin Israel yn llwyr.Stopiodd eu hamddiffyn nhwpan oedd y gelyn yn ymosod.Roedd fel tân yn llosgi drwy'r wladac yn difa popeth ar dir Jacob.

4. Roedd fel gelyn yn anelu ei fwa saeth,a'i law dde yn barod i saethu.Lladdodd bawb oedd yn annwylyn ei olwg.Do, tywalltodd ei lid fel tânar gartrefi Jerwsalem.

5. Roedd yr Arglwydd fel gelynyn dinistrio Israel.Mae wedi dinistrio'r plastai i gyd,a dymchwel ei chaerau amddiffynnol.Bellach, dim ond griddfan a galarsydd i'w glywed drwy wlad Jwda.

6. Mae wedi chwalu ei deml fel caban mewn gwinllan.Mae wedi dinistrio canolfan y gwyliau sanctaidd.Daeth pob Gŵyl grefyddola Saboth i ben yn Seion.Yn ei lid ffyrnig trodd ei gefnar y brenin a'r offeiriaid.

7. Mae'r Meistr wedi gwrthod ei allor.Mae wedi troi cefn ar ei deml.Mae wedi gadael i'r gelynrwygo ei waliau i lawr.Roedd sŵn y gelyn yn gweiddi yn nheml yr ARGLWYDDfel sŵn pobl yn dathlu yno ar ddydd Gŵyl.

8. Roedd yr ARGLWYDD yn benderfynolo droi waliau dinas Jerwsalem yn adfeilion.Roedd wedi cynllunio'n ofalus beth i'w wneud,ac aeth ati i'w dinistrio nhw'n llwyr.Bellach mae'r waliau oedd yn amddiffyn y ddinasyn gorwedd yn llesg fel pobl yn galaru.

Galarnad 2