Exodus 9:13-22 beibl.net 2015 (BNET)

13. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Coda'n fore, a sefyll o flaen y Pharo, a dywed wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid, yn ei ddweud: “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gael fy addoli i!

14. Y tro yma dw i'n mynd i dy daro di, a dy swyddogion a dy bobl gyda plâu gwaeth fyth, er mwyn i ti ddeall fod yna neb tebyg i mi ar y ddaear.

15. Gallwn i fod wedi dy daro di a dy bobl gyda pla ofnadwy fyddai wedi eich dileu oddi ar wyneb y ddaear!

16. Dyma pam wnes i dy godi di – er mwyn dangos i ti mor bwerus ydw i, ac er mwyn i bawb drwy'r byd i gyd ddod i wybod amdana i.

17. Ond rwyt ti'n dal i ormesu fy mhobl, ac yn gwrthod gadael iddyn nhw fynd yn rhydd.

18. Felly, tua'r adeg yma yfory, dw i'n mynd i anfon y storm genllysg waethaf mae'r Aifft erioed wedi ei gweld.

19. Gwell i ti gasglu dy anifeiliaid a phopeth arall sydd piau ti o'r caeau i le saff. Bydd pob person ac anifail sy'n cael ei ddal yn y cae gan y storm yn cael ei daro gan y cenllysg ac yn marw!”’”

20. Dyma rai o swyddogion y Pharo yn credu beth ddwedodd yr ARGLWYDD, ac yn brysio allan i gasglu eu gweision a'u hanifeiliaid o'r caeau.

21. Ond roedd eraill yn poeni dim am y peth, a dyma nhw'n gadael eu gweision a'u hanifeiliaid yn y caeau.

22. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Cod dy law i fyny i'r awyr, i wneud i genllysg ddisgyn drwy wlad yr Aifft, ar bobl ac anifeiliaid, ac ar y cnydau sy'n tyfu trwy'r wlad i gyd.”

Exodus 9