Exodus 6:12-30 beibl.net 2015 (BNET)

12. Ond dyma Moses yn ateb yr ARGLWYDD, “Dydy pobl Israel ddim yn fodlon gwrando, felly pam ddylai'r Pharo wrando arna i? Dw i'n siaradwr gwael.”

13. Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron fod rhaid iddyn nhw fynd yn ôl at bobl Israel ac at y Pharo, am eu bod i arwain pobl Israel allan o wlad yr Aifft.

14. Dyma enwau penaethiaid teuluoedd Israel:Meibion Reuben, mab hynaf Israel: Hanoch, Palw, Hesron a Carmi – enwau teuluoedd o lwyth Reuben.

15. Meibion Simeon: Iemwel, Iamin, Ohad, Iachin, Sochar a Saul (mab i ferch o Canaan) – enwau teuluoedd o lwyth Simeon.

16. A dyma enwau meibion Lefi (bob yn genhedlaeth): Gershon, Cohath a Merari (Roedd Lefi wedi byw i fod yn 137 mlwydd oed.)

17. Meibion Gershon bob yn deulu: Libni a Shimei

18. Meibion Cohath: Amram, Its'har, Hebron ac Wssiel (Roedd Cohath wedi byw i fod yn 133 mlwydd oed.)

19. Meibion Merari: Machli a Mwshi. Dyma deuluoedd llwyth Lefi (bob yn genhedlaeth).

20. Roedd Amram wedi priodi Iochefed, chwaer ei dad, a nhw oedd rhieni Aaron a Moses. (Roedd Amram wedi byw i fod yn 137 mlwydd oed.)

21. Meibion Its'har oedd Cora, Neffeg a Sichri.

22. Meibion Wssiel oedd Mishael, Eltsaffan a Sithri.

23. Roedd Aaron wedi priodi Eliseba (merch Aminadab, a chwaer i Nachshon), a nhw oedd rhieni Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar.

24. Meibion Cora oedd Assir, Elcana ac Abiasaff. Eu disgynyddion nhw oedd y Corahiaid.

25. Roedd Eleasar (mab Aaron) wedi priodi un o ferched Pwtiel, a nhw oedd rhieni Phineas. Dyma benaethiaid y teuluoedd o lwyth Lefi.

26. Y rhain oedd yr Aaron a'r Moses wnaeth yr ARGLWYDD siarad â nhw, a dweud, “Dw i am i chi arwain pobl Israel allan o wlad yr Aifft mewn rhengoedd trefnus.”

27. Nhw oedd y rhai aeth i siarad â'r Pharo, brenin yr Aifft, a mynnu ei fod yn gadael i bobl Israel fynd allan o'r Aifft – yr un Moses ac Aaron.

28. Pan siaradodd yr ARGLWYDD gyda Moses yn yr Aifft,

29. dwedodd wrtho, “Fi ydy'r ARGLWYDD. Dw i eisiau i ti ddweud wrth y Pharo, brenin yr Aifft, bopeth dw i'n ei ddweud wrthot ti.”

30. Ond dyma Moses yn ateb yr ARGLWYDD, “Dw i'n siaradwr gwael! Pam ddylai'r Pharo wrando arna i?”

Exodus 6