9. “Yna rhaid gwneud iard y Tabernacl gyda llenni o'i chwmpas wedi eu gwneud o'r lliain main gorau. Ar yr ochr ddeheuol
10. bydd dau ddeg postyn yn sefyll mewn dau ddeg o socedi pres, a bachau ar ffyn arian i ddal y llenni.
11. Yna'r un fath ar yr ochr ogleddol.
12. Ar y cefn, yn wynebu'r gorllewin, mae lled yr iard i fod yn ddau ddeg dau metr o lenni, a deg postyn yn sefyll mewn deg o socedi pres.
16. Yna sgrîn y giât yn naw metr o lenni yn hongian ar bedwar postyn mewn pedair soced bres. Bydd y llenni wedi eu gwneud o'r lliain main gorau ac wedi eu brodio gydag edau las, porffor a coch.
17. Bydd y polion o gwmpas yr iard i gyd wedi eu cysylltu gyda ffyn arian a bachau arian arnyn nhw, ac wedi eu gosod mewn socedi pres.
18. Bydd yr iard yn bedwar deg pedwar metr o hyd ac yn ddau ddeg dau metr o led. Mae uchder y llenni i fod yn ddau pwynt dau metr, yn cael eu dal i fyny gan bolion mewn socedi pres.
19. Mae offer y Tabernacl i gyd (popeth sy'n cael ei ddefnyddio yn y defodau), a'r pegiau, i gael eu gwneud o bres.