3. Yna dyma Moses yn mynd i ddweud wrth y bobl beth ddwedodd yr ARGLWYDD. Roedd ymateb y bobl yn unfrydol, “Byddwn ni'n gwneud popeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.”
4. Felly dyma Moses yn ysgrifennu popeth ddwedodd yr ARGLWYDD. Ac yn gynnar y bore wedyn dyma fe'n codi allor wrth droed y mynydd, ac un deg dwy o golofnau o'i chwmpas – un ar gyfer pob un o ddeuddeg llwyth Israel.
5. Yna dyma fe'n anfon rhai o'r dynion ifanc i gyflwyno offrymau oedd i'w llosgi'n llwyr, ac i aberthu teirw yn offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
6. Wedyn dyma Moses yn rhoi hanner y gwaed mewn powlenni, a sblasio'r gweddill ar yr allor.
7. Yna dyma fe'n cymryd Sgrôl yr Ymrwymiad, ac yn ei darllen i'r bobl. A dyma nhw'n dweud eto, “Byddwn ni'n gwneud popeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, ac yn gwrando arno.”