Exodus 22:28-31 beibl.net 2015 (BNET)

28. Paid cymryd enw Duw yn ysgafn, na melltithio un o arweinyddion dy bobl.

29. Paid cadw'n ôl beth sydd i fod i gael ei offrymu i mi o'r cynhaeaf grawn a'r cafnau gwin ac olew.Rhaid i bob mab hynaf gael ei roi i mi.

30. A'r un fath gyda pob anifail gwryw sydd y cyntaf i gael ei eni – bustych, defaid a geifr – gallan nhw aros gyda'r fam am saith diwrnod, ond rhaid i chi eu rhoi nhw i mi ar yr wythfed diwrnod.

31. Dych chi i fod yn bobl wedi eu cysegru i mi. Peidiwch bwyta cig unrhyw beth sydd wedi ei ladd gan anifail gwyllt. Taflwch e i'r cŵn.

Exodus 22