Exodus 19:15-22 beibl.net 2015 (BNET)

15. Dwedodd wrthyn nhw, “Byddwch barod ar gyfer y diwrnod ar ôl yfory. Peidiwch cael rhyw.”

16. Dau ddiwrnod wedyn, yn y bore, roedd yna fellt a tharanau, a daeth cwmwl trwchus i lawr ar y mynydd. Ac roedd sŵn nodyn hir yn cael ei seinio ar y corn hwrdd. Roedd y bobl i gyd yn crynu mewn ofn.

17. Dyma Moses yn arwain y bobl allan o'r gwersyll i gyfarfod Duw, a dyma nhw'n sefyll wrth droed y mynydd.

18. Roedd mwg yn gorchuddio Mynydd Sinai, am fod yr ARGLWYDD wedi dod i lawr arno mewn tân. Roedd y mwg yn codi ohono fel mwg o ffwrnais fawr, ac roedd y mynydd yn crynu trwyddo.

19. Roedd sŵn y corn hwrdd yn uwch ac yn uwch drwy'r adeg. Roedd Moses yn siarad, a llais Duw yn ei ateb yn glir.

20. Daeth yr ARGLWYDD i lawr ar gopa mynydd Sinai. Galwodd ar Moses i fynd i fyny ato, a dyma Moses yn gwneud hynny.

21. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos i lawr a rhybuddio'r bobl i beidio croesi'r ffin i edrych ar yr ARGLWYDD, neu bydd lot fawr ohonyn nhw'n marw.

22. Rhaid i'r offeiriaid, sy'n mynd at yr ARGLWYDD yn rheolaidd, gysegru eu hunain, rhag i'r ARGLWYDD eu taro nhw'n sydyn.”

Exodus 19