Exodus 18:12-22 beibl.net 2015 (BNET)

12. Yna dyma Jethro, tad-yng-nghyfraith Moses, yn dod ag offrwm i'w losgi ac aberthau eraill i'w cyflwyno i Dduw. A dyma Aaron ac arweinwyr Israel yn ymuno gyda Jethro i fwyta'r aberthau o flaen Duw.

13. Y diwrnod wedyn dyma Moses yn eistedd i farnu achosion rhwng pobl. Roedd y bobl yn ciwio o'i flaen o fore gwyn tan nos.

14. Pan welodd ei dad-yng-nghyfraith gymaint roedd Moses yn ei wneud, dyma fe'n dweud, “Pam wyt ti'n gwneud hyn i gyd ar dy ben dy hun? Mae'r bobl yn gorfod sefyll yma drwy'r dydd yn disgwyl eu tro.”

15. “Mae'r bobl yn dod ata i am eu bod eisiau gwybod beth mae Duw'n ddweud,” meddai Moses.

16. “Pan mae dadl yn codi rhwng pobl, maen nhw'n gofyn i mi farnu, a dw i'n dweud wrthyn nhw beth ydy rheolau ac arweiniad Duw.”

17. “Dydy hyn ddim yn iawn,” meddai tad-yng-nghyfraith Moses.

18. “Byddi wedi ymlâdd – ti a'r bobl. Mae'n ormod o faich i ti ei gario ar dy ben dy hun.

19. Gwranda ar air o gyngor, a bydd Duw yn dy helpu di. Gelli di gynrychioli'r bobl o flaen Duw, a mynd â'u hachosion ato.

20. Gelli eu dysgu nhw am reolau a chyfreithiau Duw, a dweud wrthyn nhw sut dylen nhw fyw a beth ddylen nhw wneud.

21. Ond yna rhaid i ti ddewis dynion cyfrifol – dynion duwiol a gonest, fyddai'n gwrthod derbyn breib – a'u penodi nhw'n swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant a deg.

22. Cân nhw farnu'r achosion cyffredin o ddydd i ddydd, ond dod â'r achosion anodd atat ti. Gad iddyn nhw ysgafnhau'r baich arnat ti drwy ddelio gyda'r achosion hawdd.

Exodus 18