Exodus 15:23-26 beibl.net 2015 (BNET)

23. Yna dyma nhw'n cyrraedd Mara, ond roedden nhw'n methu yfed y dŵr yno am ei fod mor chwerw. (Dyna pam roedd yn cael ei alw yn Mara – sef “Chwerw.”)

24. Dyma'r bobl yn dechrau troi yn erbyn Moses. “Beth ydyn ni'n mynd i'w yfed?” medden nhw.

25. Dyma Moses yn gweddïo'n daer am help, a dyma'r ARGLWYDD yn ei arwain at ddarn o bren. Ar ôl i Moses ei daflu i'r dŵr roedd y dŵr yn iawn i'w yfed.Yn Mara dyma'r ARGLWYDD yn rhoi rheol iddyn nhw, er mwyn profi pa mor ffyddlon oedden nhw:

26. “Os byddwch chi'n ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw, a gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg e, gwrando ar beth mae'n ei ddweud a chadw at ei reolau, fydd dim rhaid i chi ddiodde'r afiechydon wnes i daro'r Eifftiaid gyda nhw. Fi ydy'r ARGLWYDD sy'n eich iacháu chi.”

Exodus 15