Exodus 14:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2. “Dywed wrth bobl Israel am droi yn ôl i gyfeiriad Pi-hachiroth, sydd rhwng Migdol a'r môr, a gwersylla ar lan y môr, yn union gyferbyn â Baal-tseffon.

3. Bydd y Pharo yn meddwl, ‘Dydy pobl Israel ddim yn gwybod ble i droi. Maen nhw wedi eu dal rhwng yr anialwch a'r môr!’

4. Bydda i'n gwneud y Pharo yn ystyfnig unwaith eto, a bydd yn dod ar eich holau. Ond bydda i'n cael fy anrhydeddu drwy beth fydd yn digwydd i'r Pharo a'i fyddin, a bydd pobl yr Aifft yn dod i ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD.” Felly dyma bobl Israel yn gwneud beth ddwedodd Moses.

5. Pan ddywedwyd wrth frenin yr Aifft fod y bobl wedi dianc, dyma fe a'i swyddogion yn newid eu meddyliau, “Beth oedd ar ein pennau ni?” medden nhw, “Dŷn ni wedi gadael i'n caethweision fynd yn rhydd!”

6. Felly dyma fe'n paratoi ei gerbydau rhyfel ac yn mynd â'i filwyr gydag e.

7. Aeth â chwech chant o'i gerbydau gorau, a'r cerbydau eraill i gyd, gyda cadfridog yn bob un.

Exodus 14