Esther 3:7-10 beibl.net 2015 (BNET)

7. Yn y mis cyntaf (sef Nisan) o'r ddeuddegfed flwyddyn i Ahasferus fel brenin, dyma Haman yn mynd trwy'r ddefod o daflu'r pŵr (sef math o ddeis), i benderfynu ar ddyddiad a mis i ladd yr Iddewon. Roedd y dyddiad gafodd ei ddewis yn ystod y deuddegfed mis (sef Adar).

8. Yna dyma Haman yn mynd at y Brenin Ahasferus, a dweud wrtho, “Mae yna un grŵp o bobl ar wasgar drwy daleithiau dy deyrnas di, sy'n cadw ar wahân i bawb arall. Maen nhw'n cadw eu cyfreithiau eu hunain a ddim yn ufuddhau i gyfreithiau'r brenin. Ddylai'r brenin ddim gadael iddyn nhw wneud hyn.

9. Os ydy'r brenin yn cytuno, dylid dyfarnu eu bod nhw i gyd i gael eu lladd. Dw i'n addo talu dros 300 tunnell o arian i'r trysordy brenhinol i gael swyddogion i drefnu hyn i gyd.”

10. Felly dyma'r brenin yn tynnu ei sêl-fodrwy a'i rhoi hi i Haman, oedd yn casáu'r Iddewon.

Esther 3