10. Doedd Esther wedi dweud dim wrth neb am ei chefndir a'i theulu, am fod Mordecai wedi dweud wrthi am beidio.
11. Roedd yn awyddus iawn i wybod sut roedd hi'n dod yn ei blaen, a beth oedd yn digwydd iddi. Felly bob dydd byddai Mordecai'n cerdded yn ôl ac ymlaen wrth ymyl iard y tŷ lle roedd y merched yn byw.
12. Aeth blwyddyn gyfan heibio pan oedd y merched yn cael eu paratoi, cyn i'w tro nhw ddod i fynd at y Brenin Ahasferus. Roedd pob un ohonyn nhw yn gorfod mynd trwy driniaethau harddwch gyntaf – chwe mis pan oedd eu croen yn cael ei drin gydag olew olewydd a myrr, a chwe mis pan oedden nhw'n cael persawrau a coluron.
13. Dim ond wedyn y byddai merch yn barod i fynd at y brenin, a byddai'n cael gwisgo pa ddillad bynnag fyddai hi'n ei ddewis o lety'r harîm.
14. Byddai'n mynd ato gyda'r nos, ac yna'r bore wedyn yn mynd i ran arall o lety'r harîm, lle roedd cariadon y brenin yn aros, a Shaasgas, un o ystafellyddion y brenin yn gofalu amdanyn nhw. Fyddai'r merched yma ddim yn mynd yn ôl at y brenin oni bai fod y brenin wedi ei blesio'n fawr gan un ohonyn nhw ac yn gofyn yn benodol amdani.
15. Pan ddaeth tro Esther i fynd at y brenin, aeth hi a dim gyda hi ond beth oedd Hegai, oedd yn gofalu am y merched, wedi ei awgrymu iddi. Roedd pawb welodd hi yn meddwl ei bod hi'n hynod o hardd.
16. Felly dyma Esther yn mynd at y Brenin Ahasferus yn ei balas, yn y degfed mis (sef Tebeth) o'i seithfed flwyddyn fel brenin.
17. Roedd y brenin yn hoffi Esther fwy na'r merched eraill i gyd. Syrthiodd mewn cariad gyda hi, a'i choroni yn frenhines yn lle Fasti.
18. A dyma fe'n trefnu gwledd fawr i'w swyddogion i gyd – gwledd Esther. A dyma fe'n cyhoeddi gwyliau cyhoeddus drwy'r taleithiau i gyd, a rhannu rhoddion i bawb ar ei gost ei hun.
19. Pan oedd y merched ifanc yn cael eu galw at ei gilydd am yr ail waith, roedd Mordecai wedi ei benodi'n swyddog yn y llys brenhinol.
20. Doedd Esther yn dal ddim wedi dweud dim am ei theulu a'i chefndir, fel roedd Mordecai wedi ei chynghori. Roedd hi'n dal yn ufuddhau iddo, fel roedd hi wedi gwneud ers pan oedd e'n ei magu hi.
21. Bryd hynny, pan oedd Mordecai yn eistedd yn y llys, roedd dau o weision y brenin, Bigthan a Teresh, oedd yn gwarchod drws ystafell y brenin, wedi gwylltio ac yn cynllwynio i ladd y brenin Ahasferus.