Esra 9:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ar ôl hyn i gyd dyma'r penaethiaid yn dod ata i a dweud, “Mae pobl Israel a'r offeiriaid a'r Lefiaid yn byw yr un fath â'r bobl baganaidd o'u cwmpas nhw. Maen nhw'n mynd trwy'r defodau ffiaidd roedd y Canaaneaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid, pobl Ammon, Moab, yr Aifft, a'r Amoriaid yn eu gwneud.

2. Maen nhw hyd yn oed wedi priodi rhai o ferched y bobloedd yma, fel bod pobl sanctaidd Duw wedi cymysgu gyda'r bobl leol. Ac yn waeth na hynny, yr arweinwyr a'r swyddogion oedd y rhai cyntaf i fod yn anffyddlon!”

3. Pan glywais hyn dyma fi'n rhwygo fy nillad, tynnu gwallt fy mhen a'm barf ac eistedd ar lawr. Roeddwn i mewn sioc.

4. A dyma pawb oedd wir yn parchu beth roedd Duw Israel yn ei ddweud yn casglu o'm cwmpas i, am fod y bobl ddaeth yn ôl o'r gaethglud wedi bod mor anffyddlon. Bues i'n eistedd yna nes oedd hi'n amser offrwm yr hwyr.

5. Pan ddaeth hi'n amser offrwm yr hwyr dyma fi'n codi, a'm dillad wedi eu rhwygo. Yna mynd ar fy ngliniau, dal fy nwylo ar led flaen yr ARGLWYDD fy Nuw,

6. a gweddïo,“O Dduw! Mae gen i ormod o gywilydd dy wynebu di, fy Nuw. Dŷn ni wedi cael ein llethu'n llwyr gan ein pechodau, ac mae'n heuogrwydd wedi cyrraedd yr holl ffordd i'r nefoedd.

7. Dŷn ni wedi pechu o ddyddiau'n hynafiaid hyd heddiw. A dyna pam dŷn ni, a'n brenhinoedd a'n hoffeiriaid wedi cael ein cam-drin gan frenhinoedd gwledydd eraill – wedi colli brwydrau, cael ein cymryd yn gaethion, colli popeth a chael ein cywilyddio. A dyna sut mae hi arnon ni heddiw.

8. Ond nawr, yn ddiweddar, rwyt ti ARGLWYDD ein Duw wedi bod yn garedig wrthon ni. Ti wedi gadael i rai ohonon ni ddod yn ôl, ac wedi gadael i ni setlo i lawr yn dy ddinas sanctaidd. Ti wedi'n gwneud ni'n wirioneddol hapus, ac wedi'n rhyddhau ni o'n caethiwed.

Esra 9