Esra 7:17-26 beibl.net 2015 (BNET)

17. Mae'r arian yma i'w ddefnyddio i brynu teirw, hyrddod, ŵyn, a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda nhw. Dos â nhw at allor teml dy Dduw yn Jerwsalem.

18. Wedyn gelli ddefnyddio unrhyw arian ac aur sy'n weddill i wneud beth bynnag wyt ti a dy gyd-offeiriaid yn ei feddwl sydd orau – beth bynnag wyt ti'n feddwl mae dy Dduw eisiau.

19. Dos â'r llestri sydd wedi eu rhoi i ti ar gyfer gwasanaeth y deml, a'u rhoi nhw i dy Dduw yn Jerwsalem.

20. Ac os oes rhywbeth arall sydd ei angen ar gyfer y deml, gelli gymryd yr arian i dalu amdano o'r trysordy brenhinol.

21. Dw i, y Brenin Artaxerxes, yn gorchymyn penaethiaid trysordai Traws-Ewffrates i roi i Esra'r offeiriad (yr arbenigwr yng Nghyfraith Duw'r nefoedd) beth bynnag mae'n gofyn amdano.

22. Gallwch roi iddo hyd at dair tunnell a hanner o arian, 10 tunnell o wenith, 2,000 litr o win, 2,000 litr o olew olewydd, a faint bynnag o halen mae'n gofyn amdano.

23. Dylid rhoi i'r deml, beth bynnag mae Duw'r nefoedd eisiau. Dw i ddim eisiau iddo ddigio gydag Ymerodraeth y brenin a'i feibion.

24. Hefyd, dw i eisiau i chi ddeall fod gynnoch chi ddim awdurdod i godi trethi na thollau o unrhyw fath ar yr offeiriaid, y Lefiaid, y cerddorion, y porthorion, gweision y deml nac unrhyw un arall sy'n gofalu am deml y Duw yma.

25. Yna ti, Esra. Defnyddia'r ddoethineb mae dy Dduw wedi ei rhoi i ti i ddewis barnwyr a swyddogion llys. Wedyn byddan nhw'n gallu delio gydag achosion y bobl hynny yn rhanbarth Traws-Ewffrates sy'n gyfarwydd â chyfraith dy Dduw; a dylid hyfforddi'r rhai hynny sydd ddim yn gwybod y Gyfraith.

26. Bydd unrhyw un sy'n torri cyfraith dy Dduw a chyfreithiau'r brenin yn cael eu cosbi gyda'r ddedfryd briodol – cael eu dienyddio, cael eu halltudio, colli eu heiddo neu gael eu carcharu.”

Esra 7