Esra 6:11-21 beibl.net 2015 (BNET)

11. A dw i'n rhybuddio y bydd unrhyw un sy'n newid y gorchymyn yma yn marw – bydd trawst pren yn cael ei gymryd o'i dŷ a bydd y person hwnnw yn cael ei rwymo i'r trawst a'i drywanu'n farw. Wedyn bydd ei dŷ yn cael ei chwalu am ei fod wedi gwneud y fath beth.

12. Boed i'r Duw sy'n byw yn Jerwsalem ddinistrio unrhyw frenin neu wlad sy'n ceisio newid hyn er mwyn chwalu'r deml yno. Dw i, Dareius, wedi rhoi'r gorchymyn, a dw i'n disgwyl i'r cwbl gael ei gadw i'r llythyren!”

13. Dyma Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates), Shethar-bosnai, a'i cydweithwyr yn gwneud yn union beth roedd y brenin Dareius wedi ei orchymyn.

14. Roedd arweinwyr yr Iddewon yn dal ati i adeiladu, ac yn llwyddiannus iawn, tra roedd Haggai a Sechareia fab Ido yn dal ati i broffwydo. A dyma nhw'n gorffen y gwaith adeiladu roedd Duw Israel wedi ei orchymyn, a hefyd Cyrus, Dareius ac Artaxerxes, brenhinoedd Persia.

15. Dyma nhw'n gorffen adeiladu'r deml ar y trydydd o fis Adar, yn chweched flwyddyn teyrnasiad y brenin Dareius.

16. Trefnodd pobl Israel ddathliad i gysegru'r deml. Roedd pawb yno – yr offeiriaid, y Lefiaid, a pawb arall ddaeth yn ôl o'r gaethglud.

17. Cafodd cant o deirw eu hoffrymu, dau gant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, ac un deg dau bwch gafr dros bechodau pobl Israel (un ar ran pob llwyth).

18. Yna, fel mae sgrôl Moses yn dweud, dyma nhw'n rhannu'r offeiriaid a'r Lefiaid yn grwpiau, i fod yn gyfrifol am addoliad Duw yn Jerwsalem.

19. Dyma'r bobl oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud yn dathlu'r Pasg ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf.

20. Roedd yr offeiriaid a'r Lefiaid wedi mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain ac wedi eu cysegru. Felly dyma nhw'n lladd ŵyn y Pasg ar ran y bobl oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud, ac ar ran yr offeiriaid eraill a nhw eu hunain.

21. Cafodd aberthau'r Pasg eu bwyta gan bobl Israel a phawb arall oedd wedi ymuno gyda nhw a troi cefn ar arferion paganaidd pobloedd eraill y wlad er mwyn dilyn yr ARGLWYDD, Duw Israel.

Esra 6