Esra 3:11-13 beibl.net 2015 (BNET)

11. Roedden nhw'n canu mewn antiffoni, wrth foli ac addoli'r ARGLWYDD:“Mae e mor dda aton ni;Mae ei haelioni i Israel yn ddiddiwedd!”A dyma'r dyrfa i gyd yn gweiddi'n uchel a moli'r ARGLWYDD am fod sylfaeni'r deml wedi eu gosod.

12. Ond yng nghanol yr holl weiddi a'r dathlu, roedd llawer o'r offeiriaid, Lefiaid a'r arweinwyr hŷn yn beichio crïo. Roedden nhw'n cofio'r deml fel roedd hi, pan oedd hi'n dal i sefyll.

13. Ond doedd neb wir yn gallu gwahaniaethu rhwng sŵn y dathlu a sŵn y crïo. Roedd pobl yn gweiddi mor uchel roedd i'w glywed o bell.

Esra 3