Eseia 65:8-13 beibl.net 2015 (BNET)

8. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Fel mae sudd da mewn swp o rawnwin,a rhywun yn dweud, ‘Paid difetha fe; mae daioni ynddo,’felly y bydda i'n gwneud er mwyn fy ngweision –fydda i ddim yn eu dinistrio nhw i gyd.

9. Bydda i'n rhoi disgynyddion i Jacob,a pobl i etifeddu fy mynyddoedd yn Jwda.Bydd y rhai dw i wedi eu dewis yn eu feddiannu,a bydd fy ngweision yn byw yno.

10. Bydd Saron yn borfa i ddefaid,a Dyffryn Achor, sy'n le i wartheg orwedd,yn eiddo i'r bobl sy'n fy ngheisio i.

11. Ond chi sydd wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD,a diystyru fy mynydd cysegredig i;chi sy'n gosod bwrdd i'r duw ‘Ffawd,’ac yn llenwi cwpanau o win i'r duw ‛Tynged‛.

12. Dw i'n eich condemnio i gael eich lladd gan y cleddyf!Byddwch chi'n penlinio i gael eich dienyddio –achos roeddwn i'n galw, a wnaethoch chi ddim ateb;roeddwn i'n siarad, a wnaethoch chi ddim gwrando.Roeddech chi'n gwneud pethau oeddwn i'n eu casáu,ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.”

13. Felly dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD yn ei ddweud:“Bydd fy ngweision yn bwyta, a chi'n llwgu.Bydd fy ngweision yn yfed, a chi'n sychedu.Bydd fy ngweision yn llawen, a chi'n cael eich cywilyddio.

Eseia 65