Eseia 64:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. O na fyddet ti'n rhwygo'r awyr a dod i lawr,nes bod y mynyddoedd yn crynu o dy flaen di –

2. byddai fel tân yn llosgi brigau sych,neu'n gwneud i ddŵr ferwi –i dy elynion ddod i wybod pwy wyt tiac i'r cenhedloedd grynu o dy flaen di!

3. Roeddet ti'n arfer gwneud pethau syfrdanol,cwbl annisgwyl!Roeddet ti'n dod i lawrac roedd y mynyddoedd yn crynu o dy flaen.

4. Does neb erioed wedi clyweda does neb wedi gweld Duw tebyg i ti,sy'n gweithredu o blaid y rhai sy'n ei drystio fe.

5. Ti'n helpu'r rhai sy'n mwynhau gwneud beth sy'n iawn,ac sy'n cofio sut un wyt ti.Er dy fod ti'n ddig am ein bod ni'n pechu o hyd,gallen ni ddal gael ein hachub!

Eseia 64