Eseia 6:8-13 beibl.net 2015 (BNET)

8. Yna clywais lais fy Arglwydd yn dweud: “Pwy dw i'n mynd i'w anfon? Pwy sy'n barod i fynd ar ein rhan ni?” A dyma fi'n dweud, “Dyma fi; anfon fi.”

9. Yna dwedodd, “Dos, a dweud wrth y bobl yma:‘Gwrandwch yn astud, ond peidiwch â deall;Edrychwch yn ofalus, ond peidiwch â dirnad.’

10. Gwna nhw'n ystyfnig,tro eu clustiau'n fyddar,a chau eu llygaid –rhag iddyn nhw weld â'u llygaid,clywed â'u clustiau,deall go iawn,a throi a chael eu hiacháu.”

11. Dyma fi'n gofyn, “Am faint o amser, fy Arglwydd?” A dyma fe'n ateb:“Nes bydd trefi wedi eu dinistrioa neb yn byw ynddyn nhw;tai heb bobl ynddyn nhw,a'r tir wedi ei ddifetha, a'i adael yn ddiffaith.”

12. Bydd yr ARGLWYDD yn gyrru'r boblogaeth i ffwrdd –a bydd llawer iawn o ardaloedd gwag drwy'r wlad.

13. Ond os bydd un rhan o ddeg ar ôl,fydd hwnnw eto'n cael ei losgi?“Bydd fel coeden anferth neu dderwen wedi ei thorri i lawr,a dim ond boncyff ar ôl.Ond bydd y boncyff yn ddechrau newydd,fel had sanctaidd.”

Eseia 6