Eseia 59:10-18 beibl.net 2015 (BNET)

10. Dŷn ni'n ymbalfalu wrth y wal fel pobl ddall;yn ceisio teimlo'n ffordd fel rhai sydd ddim yn gweld.Dŷn ni'n baglu ganol dydd, fel petai wedi tywyllu;dŷn ni fel cyrff meirw pan ddylen ni fod yn llawn egni.

11. Dŷn ni i gyd yn chwyrnu'n ddig fel eirthneu'n cwyno a cŵan fel colomennod.Dŷn ni'n edrych am gyfiawnder, ond ddim yn ei gael;am achubiaeth, ond mae allan o'n cyrraedd.

12. Dŷn ni wedi gwrthryfela mor aml yn dy erbyn di,mae'n pechodau yn tystio yn ein herbyn ni.Y gwir ydy, dŷn ni'n dal i wrthryfela,a dŷn ni'n gwybod yn iawn ein bod wedi methu:

13. Gwrthryfela, gwadu'r ARGLWYDDa throi cefn ar Dduw.Cymryd mantais anghyfiawn, bradychu,a palu celwyddau!

14. Felly mae'r hyn sy'n iawn yn cael ei wthio i ffwrdda chyfiawnder yn cadw draw.Mae gwirionedd yn baglu yn y gymdeithas,a gonestrwydd yn methu dod i mewn.

15. Mae gwirionedd wedi diflannu,ac mae'r un sy'n troi cefn ar ddrwg yn cael ei ysbeilio.Pan welodd yr ARGLWYDD fod dim cyfiawnderroedd yn anhapus iawn.

16. Pan welodd nad oedd neb o gwbl yn ymyrryd,roedd yn arswydo.Ond yna, dyma fe'i hun yn mynd ati i achub,a'i gyfiawnder yn ei yrru'n ei flaen.

17. Gwisgodd gyfiawnder fel arfwisg,ac achubiaeth yn helmed ar ei ben.Rhoddodd ddillad dial amdano,a gwisgo sêl fel mantell.

18. Bydd yn rhoi i bawb beth maen nhw'n ei haeddu –llid i'r rhai sydd yn ei wrthwynebu, a chosb i'w elynion;bydd yn talu'n ôl yn llawn i ben draw'r byd.

Eseia 59