Eseia 58:6-10 beibl.net 2015 (BNET)

6. Na, dyma'r math o ymprydio dw i eisiau:cael gwared â chadwyni anghyfiawnder;datod rhaffau'r iau,a gollwng y rhai sy'n cael eu gormesu yn rhydd;dryllio popeth sy'n rhoi baich ar bobl.

7. Rhannu dy fwyd gyda'r newynog,rhoi lle i fyw i'r rhai tlawd sy'n ddigartrefa rhoi dillad i rywun rwyt yn ei weld yn noeth.Peidio ceisio osgoi gofalu am dy deulu.

8. Wedyn bydd dy olau'n disgleirio fel y wawr,a byddi'n cael dy adfer yn fuan.Bydd dy gyfiawnder yn mynd o dy flaen di,a bydd ysblander yr ARGLWYDD yn dy amddiffyn o'r tu ôl.

9. Wedyn, byddi'n galw, a bydd yr ARGLWYDD yn ateb;byddi'n gweiddi, a bydd e'n dweud, ‘Dw i yma’.Rhaid cael gwared â'r iau sy'n gorthrymu,stopio pwyntio bys, a siarad yn gas.

10. Rhaid i ti wneud popeth fedri i helpu'r newynog,a chwrdd ag anghenion y rhai sy'n diodde –Wedyn bydd dy olau yn disgleirio yn y tywyllwch,a bydd dy dristwch yn troi'n olau fel canol dydd!

Eseia 58