Eseia 58:11-14 beibl.net 2015 (BNET)

11. Bydd yr ARGLWYDD yn dy arwain bob amser;yn torri dy syched pan wyt ti mewn anialwch poeth,ac yn dy wneud yn gryf.Byddi fel gardd wedi ei dyfrio,neu ffynnon ddŵr sydd byth yn sychu.

12. Byddi'n ailgodi'r hen adfeilion,ac yn adeiladu ar yr hen sylfeini.Byddi'n cael dy alw yn"Atgyweiriwr y waliau" ac yn"Adferwr y strydoedd", i bobl fyw yno.

13. Os gwnei di stopio teithio ar y Saboth,a plesio dy hun ar fy niwrnod sbesial i;os gwnei di alw'r Saboth yn "bleser",parchu diwrnod sbesial yr ARGLWYDD,dangos parch ato drwy beidio gwneud beth wyt ti eisiau,plesio dy hun, a siarad fel y mynni –

14. wedyn gelli ddisgwyl i'r ARGLWYDD gael ei blesio.Byddi'n llwyddo, a fydd dim yn dy rwystro,a cei fwynhau etifeddiaeth Jacob, dy dad.”—mae'r ARGLWYDD wedi dweud.

Eseia 58