4. Gwnes i e yn dyst i bobloedd,yn arweinydd yn rheoli gwledydd.”
5. Byddi di'n galw ar genedl wyt ti ddim yn ei nabod,a bydd cenedl sydd ddim yn dy nabod diyn rhedeg atat ti – o achos yr ARGLWYDD dy Dduw,Un Sanctaidd Israel sydd wedi dy anrhydeddu di.
6. Dewch at yr ARGLWYDD tra mae ar gael!Galwch arno tra mae'n agos!
7. Rhaid i'r euog droi cefn ar eu ffyrdd drwg,a'r rhai sy'n creu helynt ar eu bwriadau –troi'n ôl at yr ARGLWYDD, iddo ddangos trugaredd;troi at ein Duw ni, achos mae e mor barod i faddau.