Eseia 51:12-19 beibl.net 2015 (BNET)

12. “Fi, fi ydy'r un sy'n eich cysuro chi!Pam wyt ti'n ofni dyn meidrol –pobl feidrol sydd fel glaswellt?

13. Wyt ti wedi anghofio'r ARGLWYDD sydd wedi dy greu di?Yr un wnaeth ledu'r awyr a gosod sylfaeni'r ddaear!Pam mae gen ti ofn am dy fywyd drwy'r amserfod y gormeswr wedi gwylltioac yn barod i dy daro di i lawr?Ble mae llid y gormeswr beth bynnag?

14. Bydd yr un caeth yn cael ei ryddhau ar frys!Fydd e ddim yn marw yn ei gellnac yn llwgu.

15. Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw disy'n corddi'r môr yn donnau mawrion– yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy fy enw i.

16. Dw i wedi rhoi neges i ti ei rhannuac wedi dy amddiffyn di dan gysgod fy llaw;Fi roddodd yr awyr yn ei le a gwneud y ddaear yn gadarn!A dw i wedi dweud wrth Seion: ‘Fy mhobl i ydych chi!’”

17. Deffra! Deffra!Saf ar dy draed, Jerwsalem –ti sydd wedi yfed o'r gwpanroddodd yr ARGLWYDD i ti yn ei lid!Ti sydd wedi yfed y gwpan feddwol i'w gwaelod!

18. Does yr un o'r meibion gafodd eu geni iddi yn ei harwain;does dim un o'r meibion fagodd hi yn gafael yn ei llaw.

19. Mae dau beth wedi digwydd i ti:llanast a dinistr – pwy sy'n cydymdeimlo gyda ti?newyn a'r cleddyf – sut alla i dy gysuro di?

Eseia 51