Eseia 51:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Gwrandwch arna i, chi sy'n awyddus i wneud beth sy'n iawn,ac yn ceisio'r ARGLWYDD:Ystyriwch y graig y cawsoch eich naddu ohoni,a'r chwarel y cawsoch eich cloddio ohoni.

2. Meddyliwch am Abraham, eich tad,a Sara, y cawsoch eich geni iddi.Roedd ar ei ben ei hun pan wnes i alw arno,ond bendithiais e, a'i wneud yn llawer.

3. Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion,bydd yn cysuro ei hadfeilion.Bydd yn gwneud ei hanialwch fel Eden,a'i diffeithwch fel gardd yr ARGLWYDD.Bydd llawenydd a dathlu i'w glywed ynddi,lleisiau'n diolch a sŵn canu.

4. Gwrandwch arna i, fy mhobl;daliwch sylw, fy nghenedl.Achos bydda i'n dysgu pobl,a bydd fy nghyfiawnder yn olau i'r bobloedd.

5. Dw i ar fin gwneud pethau'n iawn,dw i ar fy ffordd i achub,a bydd fy mraich gref yn rheoli pobloedd.Bydd yr ynysoedd yn troi ata i,ac yn disgwyl yn frwd i mi ddangos fy nerth.

6. Edrychwch i fyny i'r awyr,ac edrychwch ar y ddaear islaw:Bydd yr awyr yn gwasgaru fel mwg,y ddaear yn treulio fel dillad,a'r bobl sy'n byw arni yn marw fel gwybed,ond mae fy achubiaeth i yn aros am byth,a'm cyfiawnder ddim yn pallu.

Eseia 51