14. Bydd chwant bwyd ar fyd y meirw,bydd yn agor ei geg yn anferth,a bydd ysblander Jerwsalem a'i chyffro,ei sŵn a'i sbri yn llithro i lawr iddo.
15. Bydd pobl yn cael eu darostwnga pawb yn cywilyddio;bydd llygaid y balch wedi syrthio.
16. Ond bydd yr ARGLWYDD holl-bweruswedi ei ddyrchafu trwy ei gyfiawnder;a'r Duw sanctaiddwedi profi ei fod yn sanctaidd drwy ei degwch.
17. Bydd ŵyn yn pori yno fel yn eu cynefin,a chrwydriaid yn bwyta yn adfeilion y cyfoethog.
18. Gwae'r rhai sy'n llusgo drygioni gyda rhaffau twyll,a llusgo pechod ar eu holau fel trol!
19. Y rhai sy'n dweud,“Gadewch iddo wneud rhywbeth yn sydyn,i ni gael gweld;Gadewch i ni weld pwrpas Un Sanctaidd Israel,i ni gael gwybod beth ydy e!”
20. Gwae'r rhai sy'n galw drwg yn ddaa da yn ddrwg;sy'n dweud fod tywyllwch yn olaua golau yn dywyllwch;sy'n galw'r chwerw yn felysa'r melys yn chwerw!
21. Gwae'r rhai sy'n meddwl eu bod nhw'n ddoeth,ac yn ystyried eu hunain mor glyfar!
22. Gwae'r rhai sy'n arwyr wrth yfed gwin –ac yn meddwl eu bod nhw'n rêl bois wrth gymysgu'r diodydd!
23. Y rhai sy'n gollwng troseddwyr yn rhydd am freib,ac yn gwrthod rhoi dedfryd gyfiawn i'r dieuog.
24. Felly, fel gwellt yn llosgi yn y fflamaua gwair yn crino yn y gwres,bydd eu gwreiddiau yn pydru,a'u blagur yn cael ei chwythu ymaith fel llwch.Am eu bod wedi gwrthod beth mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddysgu,a chymryd dim sylw o neges Un Sanctaidd Israel.
25. Dyna pam roedd yr ARGLWYDDwedi digio gyda'i bobl.Dyna pam wnaeth e droi yn eu herbyn nhw,a'u taro nhw.Roedd y mynyddoedd yn crynu,a'r cyrff yn gorwedd fel sbwriel ar y strydoedd.Ac eto wnaeth Duw ddim tawelu,roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
26. Bydd e'n codi baner i alw cenedl o bell,ac yn chwibanu ar un o ben draw'r byd.Ac edrychwch, maen nhw'n dod ar ras wyllt!
27. Does neb yn blino nac yn baglu'n ei rhengoedd;neb yn pendwmpian nac yn cysgu;neb â'i felt wedi ei datod,na charrai ei esgid wedi torri.
28. Mae eu saethau'n finiog,a'u bwâu i gyd yn dynn.Mae carnau'r meirch yn galed fel carreg,ac olwynion eu cerbydau yn troi fel corwynt.
29. Mae eu rhuad fel llew,maen nhw'n rhuo fel llewod ifancsy'n chwyrnu wrth ddal yr ysglyfaetha'i lusgo i ffwrdd – all neb ei achub!
30. Bryd hynny, bydd sŵn y rhuofel tonnau'r môr yn taro'r tir.Wrth edrych tua'r tirgwelir tywyllwch ac argyfwng,a'r golau'n troi'n dywyllwch yn y cymylau o ewyn.