11. Fi, ie fi ydy'r unig ARGLWYDD,a does neb ond fi yn gallu achub.
12. Fi wnaeth ddweud ymlaen llaw,fi wnaeth achub, fi wnaeth ei gyhoeddi,dim rhyw dduw dieithr –a dych chi'n dystion o'r peth.”—meddai'r ARGLWYDD—“Fi ydy'r unig Dduw,
13. Fi ydy e o'r dechrau cyntaf!Does neb yn gallu cipio rhywun oddi arna i.Pan dw i'n gwneud rhywbeth,does neb yn gallu ei ddadwneud.”
14. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un sy'n dy ryddhau, Un Sanctaidd Israel:“Dw i'n mynd i'w anfon e i Babilon er dy fwyn di.Bydda i'n bwrw ei barrau haearn i lawr,a throi bloeddio llawen y Babiloniaid yn alar.
15. Fi ydy'ch Un Sanctaidd chi, yr ARGLWYDD,eich Brenin chi, yr un greodd Israel.”
16. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un agorodd ffordd drwy'r môr, a llwybr drwy'r dyfroedd mawr;
17. yr un ddinistriodd gerbydau a cheffylau, a'r fyddin ddewr i gyd (Maen nhw'n gorwedd gyda'i gilydd, a fyddan nhw ddim yn codi. Cawson nhw eu diffodd, fel diffodd cannwyll):
18. “Peidiwch hel atgofion am y gorffennol,a dim ond meddwl am beth ddigwyddodd o'r blaen!
19. Edrychwch! Dw i'n gwneud rhywbeth newydd!Mae ar fin digwydd!Ydych chi ddim yn ei weld?Dw i'n mynd i agor ffordd drwy'r anialwch,a rhoi afonydd yn y tir diffaith.
20. Bydd anifeiliaid gwylltion yn diolch i mi,y siacaliaid a'r estrys,am fy mod wedi rhoi dŵr yn yr anialwch,ac afonydd mewn tir diffaith,i roi diod i'r bobl dw i wedi eu dewis –
21. y bobl wnes i eu llunio i mi fy hun,iddyn nhw fy moli i.”
22. “Ond dwyt ti ddim wedi galw arna i, Jacob;rwyt ti wedi blino arna i, Israel.